Neidio i'r cynnwys

Ymgynghoriad cyhoeddus ar statws dinas - rhannwch eich barn a'ch syniadau

Yn yr un modd â threfi eraill ar draws y DU, mae gan Wrecsam gyfle i arddangos ei threftadaeth - yn ogystal â'r bobl a'r llefydd sy'n gwneud Wrecsam yn unigryw - drwy wneud cais am statws dinas fel rhan o gystadleuaeth Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022. 

Mae cyfranogiad cymunedol a 'chreu lleoedd' yn elfennau allweddol o'r statws dinas, sy'n ysbrydoli pobl i ail-ddychmygu ac ail-ddyfeisio'r llefydd y maent yn byw, gweithio ac ymweld â hwy, ac yn annog pobl i ystyried potensial eu hardal.


Effeithiau Economaidd-Gymdeithasol Posibl Dyfarniad o Statws Dinas

Ystyried y buddion

Roedd y trafodaethau cychwynnol ynghylch y statws dinas yn Wrecsam yn canolbwyntio ar nodi'r manteision a'r anfanteision economaidd o fod yn ddinas. 

Fodd bynnag, yn dilyn ymchwil pellach i hyn, mae wedi dod i'r amlwg nad oes llawer o waith ymchwil wedi'i gyhoeddi mewn perthynas â hyn - felly roedd yn anodd iawn dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon. 

Nid yw bod yn ddinas yn ymwneud â newid enw a hunaniaeth Wrecsam, mae'n ymwneud â chynyddu'r cyfleoedd y mae bod yn ddinas yn gallu eu cynnig i 'Wrecsam fel dinas'. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gofyn am arbenigwyr economaidd annibynnol ddatblygu gyda phartneriaid a rhanddeiliaid strategaeth yn seiliedig ar le sy’n cynnwys fel un elfen sy’n archwilio effeithiau economaidd statws dinas ar drefi a dinasoedd o faint a chymeriad tebyg i Wrecsam. 

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod trefi sydd wedi newid i fod yn ddinasoedd wedi profi twf economaidd, ac mae dinasoedd newydd a oedd wedi paratoi cynlluniau a strategaethau hefyd wedi llwyddo i ddefnyddio eu statws newydd fel llwyfan i hyrwyddo buddsoddiad a chynyddu lefelau uchelgais.  

Er nad yw'r statws dinas ei hun yn gallu sicrhau twf economaidd, mae'n cynnig cyfle i sefydliadau lleol, prifysgolion a cholegau, clystyrau diwydiannol a sectorau economaidd allweddol ddefnyddio'r statws dinas i godi eu proffil. 

Eich cyfle chi

Mae Cyngor Wrecsam yn ystyried y syniad o ymgeisio am statws dinas ym mis Rhagfyr 2021, ond rydym yn awyddus i gasglu barn a syniadau pobl cyn gwneud penderfyniad. 

Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle i ddweud beth sy'n eich gwneud chi, y gymuned a busnesau lleol a budd-ddeiliaid allanol yn falch o Wrecsam, a sut hoffech chi weld yr ardal yn datblygu ei phroffil, cynyddu ffyniant a chreu naws am le cryfach. 

Sicrhewch eich bod yn rhannu eich barn a'ch syniadau erbyn dydd Gwener, 29 Hydref. 

Gallwch weld gwybodaeth gefndir a ffurflen gais Statws Dinas y Llywodraeth here.

Beth sy'n creu dinas?

Y meini prawf allweddol ar gyfer cais llwyddiannus yw'r gallu i brofi bod y dref/ardal yn haeddu'r wobr drwy ddangos:

  • Hunaniaeth unigryw;
  • Balchder bro;
  • Isadeiledd diwylliannol, treftadaeth, hanes a thraddodiadau diddorol;
  • Cymuned fywiog a chroesawgar;
  • Hanes o arloesi;
  • Trefniadau llywodraethu a gweinyddu cadarn;
  • Cysylltiadau â'r Teulu Brenhinol;
  • Trigolion neu gymunedau sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol a gaiff eu cydnabod yn eang at isadeiledd cymdeithasol a diwylliannol.

Cwblhewch arolwg byr a defnyddiwch y map rhyngweithiol i bostio ffotograffau a nodi'r nodweddion sy'n rhoi'r argraff orau o Wrecsam.

Dewiswch opsiwn

Llinell Amser

Dechrau'r ymgynghoriad

18 Hydref 2021

Cau'r ymgynghoriad

Dydd gwener 29 Hydref

Penderfyniad CBS Wrecsam

9 Tachwedd 2021

Cyflwyno'r cais am statws dinas

8 Rhagfyr 2021